Cynaliadwyedd Canolfan Gymunedol Westward

Gwnaeth ymddiriedolwyr Canolfan Gymunedol Westward yng Nghefn Glas, Pen-y-bont ar Ogwr, gais i’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol am gymorth gydag astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gwella defnydd o’r adeilad a gwaith cynnal a chadw.

Adeiladwyd yr adeilad gan y gymuned yn y 1950au ac mae’n parhau i fod yn eiddo annibynnol ac yn cael ei redeg yn annibynnol.  Yn anochel, nid oes ganddo systemau gwresogi ac inswleiddio modern ac ar hyn o bryd, mae’n cael trafferth gyda biliau cyfleustodau uchel.  Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn awyddus i gynnal astudiaeth i benderfynu ar y mesurau arbed ynni gorau a datblygu cynllun gweithredu i symud ymlaen.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys arolwg o gyflwr yr adeilad, arolwg effeithlonrwydd ynni, cynllun gwella mannau gwyrdd a chynllun gweithredu i sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad a’r ganolfan gymunedol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Canolfan Gymunedol Westward

 


Oriel y prosiect