Cynllun Treftadaeth Gwersyll Fferm yr Ynys

Mae Grŵp Diogelu Hut 9 (H9PG) yn gweithio gyda thîm Reach i ddatblygu cynllun treftadaeth wedi’i brisio ar gyfer y Ganolfan Ymwelwyr a’r safle ehangach yn Hut 9.   Bydd y cynllun yn darparu fframwaith i’r grŵp ddatblygu ei gynllun busnes ac i ddangos tystiolaeth mewn ceisiadau cyllido yn y dyfodol.

Mae hanes Gwersyll Carcharorion Rhyfel Fferm yr Ynys ym Mhen-y-bont ar Ogwr o arwyddocâd cenedlaethol.  Mae Grŵp Diogelu Hut 9 (H9PG) yn ymroddedig i warchod gweddill nodweddion y safle ac adrodd ei straeon trwy ddiwrnodau agored, ymweliadau a sgyrsiau.  Mae Canolfan Ymwelwyr H9PG yn ffinio â‘r Gwersyll ac mae’n rhan annatod o nodau’r sefydliad.

Prynwyd y Ganolfan Ymwelwyr yn 2022 ac mae ganddi gyfleustodau sylfaenol ac mae’n lle dehongli da. Fodd bynnag, mae angen ei huwchraddio mewn rhai mannau ac mae angen mewnbwn arbenigol ar H9PG i wella mynediad i ymwelwyr a dehongli treftadaeth.

Bydd y prosiect hwn yn datblygu cynllun treftadaeth/cyfleusterau ar gyfer y safle – gyda’r nod o wella dehongliad y gwersyll a gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r Ganolfan Ymwelwyr, Hut 9 ei hun a chyd-destun ehangach y gwersyll.

Grŵp Diogelu Hut 9


Oriel y prosiect